PLANED PLANT

“Rhif un deg tri!” rhuodd yr ustus.

Ar y gair, daeth merch fach, grynedig i mewn i’r llys.

“Safed pawb ar eu traed!” rhuodd yr ustus eto. “Ei deilyngdod y Barnwr J. Penwan Jones!”

Cododd pawb ar eu traed o barch i’r barnwr balch.

Dyn hunanbwysig iawn oedd y Barnwr J. Penwan Jones, neu J.P.J. chwedl ei wraig. Roedd e’n hoff iawn o wisgo’i benwisg, o daro’i forthwyl bach, o ymddangos o flaen ei lyfrau lledr, o arogleuon y seddau pren. Roedd e’n hoff o edrych dros ei sbectol fychan a gweld dychryn yn llygad y diffynnydd. Roedd e wrth ei fodd yn gwisgo’i wisg goch a gwyn, ei sanau sidan du a’i sgidiau duon.


Barnwr llym, didostur, mileinig iawn oedd J. Penwan Jones.

Crynai plentyn un deg tri o’i flaen. Hi oedd y trydydd plentyn ar ddeg iddo weld y diwrnod hwnnw. “Sut wyt ti’n pledio? Euog neu yn ddieuog o beidio â golchi y tu ôl i dy glustiau?” gofynnodd yr ustus.

“Euog,” meddai rhif un deg tri yn wanllyd.

“Dwi’n dy ddedfrydu i flwyddyn o fynd i’r gwely am chwech o’r gloch y nos, heb swper a dim teledu!” Trawodd y barnwr ei forthwyl bach yn galed ar y gledr ledr. Sgrechiodd rhif un deg tri.

“Ffwrdd â ti!” meddai J.P.J. yn ei lais awdurdodol.

Roedd y barnwr yn hoff o gael sylw, yn hoff o arferion hynod y llys ac yn hoff o weld pobl yn moesymgrymu iddo. Gwenodd J.P.J. Roedd ei waith wedi gorffen am y dydd. Roedd hi’n bryd iddo’i throi hi. Roedd yn edrych ymlaen at y sieri cyntaf gyda Mrs J.P.J yn eu plasty ar gyrion Caerdydd. Roedd ganddo gar mawr yn aros amdano ar waelod grisiau’r llys a gwas bach i gario’i fag lledr ac i agor drws y car mawr.

Clic! Clic! Clic! Roedd Japaneaid yn tynnu lluniau J.P.J. wrth iddo fynd i lawr y grisiau’n urddasol. Doedd dim yn well ganddo na chael ei lun wedi ei dynnu gan dwristiaid.

Ond heb yn wybod i J.P.J. roedd Gwawl, llong amser, yn hofran yn anweledig uwch ei ben. “Twymwch y peiriant sugno!” gwaeddodd Capten Brân. Distawodd y criw.

“Peiriant sugno wedi’i dwymo,” atebodd Bong. Roedd y criw yn llygadu’r sgrîn y tu mewn i’r llong amser. Roedd pob un yn croesi ei fysedd a bysedd ei draed. Plant oedd pob copa walltog o’r criw.

“Dim camsyniad y tro yma, Bong!” gorchmynnodd Brân.

“Tri! Dau! Un! Bant â hi!” gwaeddodd Bong.

Teimlodd y barnwr fod rhywbeth yn ei dynnu i’r awyr. Yn wir cafodd y barnwr ei sugno fetr cyfan oddi ar y ddaear ac wedyn ar ôl eiliad neu ddau, ei ollwng i’r ddaear eto.

“Beth yn y byd?” gwaeddodd J.P.J.

“Mae eisiau mwy o b?er, y twmffat!” gwaeddodd Brân. Edrychodd y gwas a’r Japaneaid yn rhyfedd ar y barnwr.

“I mewn i’r car!” gwaeddodd y barnwr.

“Rydyn ni wedi colli cyfle!” gwaeddodd Brân.

“Troed ar y sbardun!” gorchmynnodd J.P.J. i’w yrrwr. Ac yn wir rhoddodd y gyrrwr ei droed ar y sbardun a mynd fel cath i gythraul.

“Bydd yn rhaid sugno’r car nawr!” meddai Capten Brân.

“Tri . . . dau . . . un . . .” meddai Bong. “Bant â hi!”

Ac yn wir cododd y car, y gyrrwr a’r barnwr ychydig fetrau i’r awyr a hofran uwchben y traffig. Cafodd pawb andros o sioc.

“Beth sy’n mynd ymlaen?” gofynnodd y gyrrwr yn wyn fel y galchen.

“Mae ’na ormod o draffig inni ganolbwyntio ar y car yn unigol,” meddai Bong. Gollyngodd Bong y car i lawr.

“Help!” meddai’r gyrrwr. “Dwi’n mynd!”

“Dwi innau’n mynd hefyd!” sgrechiodd J.P.J. gan adael y car yn wag yng nghanol y traffig. Neidiodd y barnwr o’r car ac anelu tuag at y siopau agosaf.

“Sugna’r cnaf i mewn i Gwawl!” rhuodd Brân.

Rhedodd y barnwr gan sboncio i fyny ac i lawr. Roedd Bong yn trio’i orau i’w sugno i’r peiriant amser. Ond doedd y peiriant sugno ddim yn gweithio’n iawn. Roedd fel petai igian enfawr ar y barnwr. “Bong!” rhuodd Brân yn uwch. “Dyma dy gyfle olaf!”

Canolbwyntiodd Bong a chydag un edrychiad nerfus tuag at y criw, tynnodd Bong y ddolen ar ei hyd ac yna yng ngolwg yr holl griw ymddangosodd J.P.J. yn ei holl ogoniant.

Bloeddiodd pawb ar Gwawl. Roedden nhw’n llongyfarch Bong yn fawr. Roedd Bing ei gariad wrth ei bodd. Anwylodd y ddau.

“Plant ydy’r rhain!” meddyliodd J.P.J. Roedden nhw wedi gwisgo fel morladron. Roedd gan bob un benwisg arbennig, cyllell yn ei geg a chleddyf yn ei law. Roedden nhw’n taro’r drymiau ac yn curo dwylo.


“Rydyn ni wedi llwyddo!” gwaeddodd Brân. “Mae bwli mawr y byd yn mynd o flaen ei well.”

“Ydw i’n breuddwydio?” meddai J.P.J. “Ai gwallgofdy yw hwn?”

“Tynnwch y dillad twp oddi amdano!” meddai Brân. “Rhaid i’r carcharor wisgo dillad priodol.”

“Carcharor?” gofynnodd J.P.J.

“Rydyn ni’n mynd i’r llys ar Blaned Plant,” meddai Brân. Cymerwyd dillad crand y barnwr oddi wrtho, a’i wisgo mewn gwisg carcharor go iawn. Rhoddwyd cadwyn a phelen drom ar ei sawdl a’i osod mewn cell fach.

“Bydd hi’n bleser dy grogi di!” meddai un o’r criw. Teimlodd J.P.J. yn flin.

“Bydd hi’n bleser torri dy ben di i ffwrdd,” meddai un arall. “Dyna’r wyt ti’n ei haeddu.”

Cafodd y criw barti mawr ar y ffordd. Roedd brechdanau, creision, pastai a diodydd o bob math ar gyfer pob un. Edrychodd J.P.J. ar bob un yn bwyta’i wala a’i weddill o’i flaen.

Roedd y barnwr yn teimlo’n ofnus iawn o’r plant oedd o’i gwmpas. Dechreuodd ei ben-gliniau daro yn erbyn ei gilydd a’i ddannedd gosod grynu.

“Gadewch fi i fynd os gwelwch yn dda,” apeliodd J.P.J. mewn llais bach. “Rydych chi wedi cael eich jôc nawr!”

“Nid jôc mo hwn!” meddai Brân. “Rwyt ti mewn trafferthion mawr.”

“Mae arian gen i!” meddai’r barnwr. “Digon i’ch gwneud chi’n gyfoethog iawn.”

“Dydy dy arian di ddim yn cyfrif dim yn ein byd ni,” atebodd Brân.
Gartref ar y ddaear roedd pawb yn rhyfeddu at yr hyn ddigwyddodd i’r barnwr J. Penwan Jones.

“Un funud roedd e gyda ni a’r funud nesaf . . . roedd e wedi diflannu,” meddai ei was.

“Roedd e’n hercian fel cangar? ar dân!” meddai un o’r Japaneaid.

Roedd yr heddlu yn gwneud eu gorau glas i chwilio ym mhob twll a chornel amdano. Roedd plismyn mwyaf clyfar y deyrnas (y rhai â thri TGAU) yn gweithio ddydd a nos er mwyn dod o hyd iddo.

Roedd Brân wrth ei fodd yn gwylio’r cyfan ar y sgriniau teledu o’i flaen. Chwarddodd y morladron wrth weld y cyfweliadau.

“Bwli! Bwli!” rhuodd y dyrfa enfawr ar Blaned Plant. “Bwli! Bwli!”

Roedd dychryn mawr yn llygad J.P.J. Fe oedd cocyn hitio pawb.

Rhoddwyd J.P.J. i eistedd o flaen y rheithgor. Pan ddaeth y barnwr i mewn, cododd y gynulleidfa, chwifio dwylo yn yr awyr a gwneud s?n gwirion wrth dynnu tafodau.

“Rhif?” holodd yr ustus.

“Nid rhif ydw i, mae gen i enw,” meddai J.P.J.

“Chi yw rhif un deg tri,” meddai’r ustus. “Rhif anlwcus medden nhw.”

“Sut mae rhif un deg tri yn pledio?” gofynnodd y barnwr bach.

“Dieuog,” meddai J.P.J.

“Y dystiolaeth, os gwelwch yn dda,” meddai’r barnwr bach gan glicio’i fysedd. Bob tro yr edrychai J.P.J. ar y barnwr bach, roedd e’n synhwyro iddo’i weld yn ei lys ei hun ar y ddaear. Roedd ganddo wyneb gwahanol bob tro yr edrychai arno.

Ymddangosodd sgrîn fawr ar y wal. Dangosodd luniau a sain o J.P.J. yn cosbi un plentyn ar ôl y llall.

“Wythnos heb losin!” meddai J.P.J ar y fidio.

Ymddangosodd deigryn ar ei rudd. Wrth weld ei hun ar y sgrîn meddalodd ei galon rhyw fymryn. Gwelodd J.P.J. ei hun yn cosbi bachgen am beidio â gwneud ei waith cartref.

“Wythnos o wrando ar Radio Cymru – dyna dy gosb,” meddai J.P.J. ar y sgrîn. Clywodd y bachgen yn sgrechian wrth gael ei lusgo o’r llys. Teimlodd J.P.J. yn anniddig.

“Oes rhywbeth yn eich poeni?” gofynnodd y barnwr bach.

“Eisiau dweud ei bod hi’n andros o flin gen i,” meddai J.P.J.

“Ychydig yn hwyr i fod yn flin!” meddai’r barnwr bach.

Daeth y rheithgor i benderfyniad yn fuan ac roedd hi’n amlwg fod J.P.J. yn disgwyl y gwaethaf.

“Euog!” canodd cadeirydd y rheithgor. Roedd y s?n yn fyddarol yn y llys. Roedd pawb yn gweiddi, yn curo dwylo, yn curo’r llawr â’u traed. Cwympodd J.P.J. ar ei liniau.

“Rhowch gyfle arall i mi!” gwaeddodd J.P.J.

Rhoddodd y barnwr bach un droed mewn bwced o dd?r oer a sefyll.

“James Penwan Jones,” canodd y barnwr bach. “Fe’th gafwyd yn euog o fod yn fwli.”

Bloeddiodd cynulleidfa’r llys unwaith eto. “Fe’th ddedfrydwyd i ddweud miliwn o jôcs,” meddai’r barnwr bach.

“Na! Na! Na!” llefodd J.P.J. “Dydw i ddim yn gallu dweud jôcs!”

“Yn ogystal â hynny, bob tro y byddi di’n meddwl am fod yn gas tuag at blentyn fe fyddi di’n cael dy danio bedwar metr i’r awyr, torri gwynt a bydd hynny’n gwneud i ti chwerthin yn afreolus o uchel,” meddai’r barnwr bach. “Cofia, fe fyddwn ni’n gwylio pob symudiad.”


Trawodd y barnwr bach bìn yn erbyn bal?n a’i ffrwydro.

Yr eiliad nesaf, dihunodd J.P.J. yn ei gadair esmwyth, gartref wrth y tân. Roedd Mrs J.P.J. yn cysgu’n braf mewn cadair yr ochr arall i’r ystafell.

Rhoddodd y barnwr nifer o gyfweliadau ar y teledu ac yn y papurau. Dywedodd fod y cyfnod hwnnw yn aneglur a doedd dim cof ganddo o’r hyn a ddigwyddodd.

Ar ôl wythnos o orffwys a chael ei danio bedwar metr i’r awyr, torri gwynt a chwerthin yn afreolus o uchel – er mawr syndod i’w wraig – roedd yn barod i fynd yn ôl i’w waith.

Ymddangosodd Delme Dwl o’i flaen.

“Beth yw’r cyhuddiad yn ei erbyn?” gofynnodd J. Penwan Jones.

“Di-euog!” meddai’r barnwr.

Cafodd y plismon ei synnu. “Wythnos o chwerthin di-baid i’r plismon am wastraffu amser y llys,” meddai J. Penwan Jones. Ebychodd y rheithgor.

“Foneddigion a boneddigesau’r rheithgor, mae gen i rywbeth pwysig i’w ddweud,” meddai J.P.J. Hoeliodd pawb eu sylw ar y barnwr. Pesychodd yn nerfus. Aeth ymlaen i ddweud ei jôc gyntaf.

“Does gan fy nghi i ddim trwyn,” meddai un dyn wrth ei gymydog.

“Sut mae’n arogli ’te?” gofynnodd y cymydog.

“Yn ofnadwy!” meddai’r dyn. A gyda hynny, dechreuodd J.Penwan Jones chwerthin nes bod y dagrau yn powlio o’i lygaid. Ac o un i un, dechreuodd y rheithgor a’r llys cyfan chwerthin a chwerthin.

Doedd J. Penwan Jones ddim yn fwli rhagor. Roedd e wedi dysgu gwers bwysicaf ei fywyd.

Hawlfraint Gwyn Morgan 2001

 
 

 


Gwyn Morgan


Dai Owen


 
^^ Top y dudalen  
 
 

xxxx w