Storïau a cherdd newydd sbon

Dyma dair stori newydd sbon gan rai o’ch hoff awduron, wedi eu hysgrifennu’n arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2001, a cherdd newydd hefyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.Cliciwch ar y teitlau er mwyn darllen y storïau a’r gerdd. Mwynhewch y darllen!


Planed Plant gan Gwyn Morgan a Dai Owen

Hen fwli mawr yw’r Barnwr J. Penwan Jones sy’n cosbi plant am beidio golchi y tu ôl i’w clustiau ac am wrthod bwyta bresych. Pan gaiff y barnwr ei gipio i Blaned Plant mae’n cael ei gyhuddo o fod yn fwli – a’i gosb yw dweud miliwn o jôcs. Os wyt ti’n hoffi chwerthin yn uchel wrth ddarllen stori ddoniol, cofia ddarllen y stori hon!

Yr Ymwelydd: stori am Blant Blwyddyn Pedwar gan Elgan Philip Davies

Mae’r wenynen wedi achosi halibalŵ yn y dosbarth, a Syr yn rhedeg o gwmpas gyda chopi o’r Western Mail yn ei law! Ac yn waeth fyth, mae un o Aroglygwyr ei Mawrhydi wrth y drws . . .


Chredwch chi byth! gan Gwen Redvers Jones

Mae poltergeist ar waith yng nghartre newydd Siôn ac mae pethau’n symud o un man i’r llall heb i neb gyffwrdd â nhw! Siôn sy’n cael y bai gan ei rieni – ond mae ’na fanteision o gael cwmni poltergeist, yn enwedig pan ddaw hen fodryb ffyslyd ar ymweliad . . .


Y Pethau Bychain gan Mei Mac

‘. . . os wyt ti am dyfu’n gawr,
gwna’r pethau bychain hyn yn awr . . .
Dyma gerdd arbennig i ddathlu Gŵyl Dewi.











































 

 

Gellir darllen y storïau o 1 Mawrth 2001 ymlaen, trwy glicio ar luniau'r awduron.

Gellir darllen y storïau Saesneg trwy glicio ar luniau'r awduron isod.


Rob Lewis


Clare Cooper


Catherine Johnson


Neil Nuttall

 
^^ Back to top  
 
 

kidsonline w