|
|
|
Y
pethau bychain
Yng nghanol sbloets a sbort a sbri
yr Wyl, er cof amdana i,
gwna bethau difyr, gwna dy siâr
or pethau syn dy blesio di.
Tro badell ffrïo yn gitâr,
gwna forthwyl efo coes cyw iâr,
gwna dafod efo darn o ham,
a dwed rhyw bethau bach bizarre.
Gan gnoi ymylon brechdan jam
gwna gerflun bach o Smot neu Sam,
a gwna lun draig ar gefn dy law
mewn inc, i wylltio Dad a Mam!
Dos, rhuthra ir ysgol erbyn naw,
ond paid â phoeni am y baw
sydd dros dy sgidiau, at dy ffêr,
ond gwranda di ar gân y glaw.
Fin nos, yng nghwmnir tedi-bêr,
yn cyfri, fesul un, y sêr,
na hidia fod dy grys ar lawr,
na hidia fod dy lofft yn flêr.
Ac os wyt ti am dyfun gawr,
gwnar pethau bychain hyn yn awr,
ac yn y man daw pethau mawr,
ac yn y man daw pethau mawr.
Hawlfraint Mei Mac 2001
|
|
| |
Mei Mac
|
|
|