|
Croesair y
Papurau Bro ![]() |
Bydd cyfle i bawb sy'n prynu papur bro
mewn unrhyw le yng Nghymru fod yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2007
trwy gystadlu mewn cystadleuaeth groesair arbennig. Bydd gwobrau o docynnau
llyfrau gwerth £30 yr un ar gael i dri enillydd lwcus a bydd papurau
bro'r tri enillydd yn derbyn siec o £50 yr un. Gellir argraffu'r
croesair oddi ar y we hefyd trwy glicio ar y llun ohono sydd ar y dudalen
hon.
Dylid anfon y croesair at: Croesair Papur Bro, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB erbyn 30 Ebrill 2007. Gofalwch nodi eich enw a'ch cyfeiriad. Cliciwch yma i lwytho'r croesair! (PDF 52k) |