Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 
LLYFR SAESNEG Y MIS

Dyma’r teitlau a ddewiswyd yn Llyfr Saesneg y Mis gan y Cyngor Llyfrau ers i’r cynllun ddechrau ym mis Ebrill 2001. I gael rhagor o fanylion am y llyfrau unigol, ac i archebu ar-lein, cliciwch ar www.gwales.com.

Book of the month

RHAGFYR 2005

FOOD WALES

Colin Pressdee
(Graffeg)
£12.95
ISBN 0954433467

Llyfr yn edrych ar y bwydydd amrywiol a gynhyrchir yng nghefn gwlad, arfordir a môr Cymru gan gynnig cyngor ar y lleoedd gorau i fwyta a phrynu bwyd lleol a chynnyrch naturiol; ceir gwybodaeth ar gynhyrchwyr, marchnadoedd ffermwyr, a siopau drwy Gymru, a rhoddir cyngor ar brynu oddi ar y we.

 

 

TACHWEDD 2005
 
WELSH JOURNEYS
Jamie Owen
(Gomer)
£19.99
ISBN 1843235692

Llyfr taith gan y darlledwr poblogaidd, wrth iddo fwrw cip ar holl amrywiaeth y tirlun Cymreig, a chyfarfod â phobl diddorol ar hyd y ffordd; mae’n sôn am yr Wyddfa, dyffryn Gwy, Ynys Môn, Bannau Brycheiniog, Llangollen a Betws-y-coed a cheir ffotograffau lliw ar bob tudalen.
HYDREF 2005

PERSONS LIVING OR DEAD
Nia Williams
(Honno)
£9.99
ISBN 1870206711

Stori wefreiddiol llawn angerdd am gariad a cholled sy’n cwmpasu bywydau dwy wraig wahanol iawn; mae’r stori’n sôn am barhad cariad sy’n pontio dwy genhedlaeth yn erbyn pob adfyd a’r cyfan yn digwydd ar gefndir cyfoethog byd y ffilm a’r theatr.
MEDI 2005
 
ADMIRAL SIR HENRY MORGAN: THE GREATEST BUCCANEER OF THEM ALL
Terry Breverton
(Glyndwr Publishing)
£11.99
ISBN 1903529174

Cyfrol ddifyr yn dangos ôl gwaith ymchwil trylwyr sy'n tanseilio'r ddadl mai troseddwr di-hid a chreulon oedd Henry Morgan; darlunnir ef yma fel tactegydd milwrol gwych a arweiniodd ddwsin o ymgyrchoedd llwyddiannus yn erbyn grym milwrol cryfa'r byd, ac a gafodd ei apwyntio’n llywodraethwr ar Jamaica ar sail ei fuddugoliaethau.
AWST 2005
 
POCKET GUIDE SERIES, A: PRINCESSES OF WALES
Deborah Fisher
(University of Wales Press)
£6.99
ISBN 070831936X

Cyfeirlyfr cryno ond cynhwysfawr i rôl gymdeithasol newidiol Tywysoges Cymru a dyfodol y swydd, gyda bywgraffiadau unigol ar gyfer naw o wragedd sydd wedi dal y teitl. 8 ffotograff lliw.
GORFFENNAF 2005
 
EVERYTHING IN THE GARDEN
Jo Verity
(Honno)
£6.99
ISBN 1870206703
Nofel gyfoes am wy�r a gwragedd yn eu pumdegau sy'n gwerthu eu cartrefi yn y ddinas a phrynu tai gwledig ar ororau Cymru; eu bwriad yw byw mewn cymuned agos, ond mae Anna yn teimlo bod ei ffrindiau yn cilio oddi wrthi pan ddaw problemau teuluol i darfu ar ei bywyd.
MEHEFIN 2005
 
IN THE DARK
Beryl Stafford Williams
(Gomer)
£8.99
ISBN 1843235021
Nofel afaelgar sy'n seiliedig ar stori wir. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cludwyd yn gyfrinachol drysorau mawrion yr Oriel Genedlaethol i ogofâu gwag yng ngogledd Cymru. Mae'r stori’n dilyn criw o blant lleol sy'n dod ar draws y cludo hwn; dangosir eu perthynas â'i gilydd, a cheir portread o fyd plentyn yng nghyfnod y rhyfel.
MAI 2005
 
STRANGE BLOOD
Lindsay Ashford
(Honno)
£6.99
ISBN 187020669X
Nofel afaelgar am Ddoethur mewn Seicoleg sy'n cael ei galw i gynorthwyo'r heddlu gyda llofruddiaeth erchyll a sinistr, ond sy'n gwneud camgymeriad peryglus; gan awdures sydd wedi'i hyfforddi ym maes troseddeg. Dilyniant i'r nofel hynod lwyddiannus, Frozen.
EBRILL 2005
 
CECIL AND NOREEN
Patrick Corcoran
(Seren)
£7.99
ISBN 1854113887
Nofel deimladwy yn adlewyrchu atgofion cwpl oedrannus wrth iddynt ail-fyw eu carwriaeth a’u bywyd priodasol. Dilyniant i 'Last Light Breaking'.
MAWRTH 2005
 
URBAN WELSH
Ed. Lewis Davies
(Parthian) 
£9.99 
ISBN 1902638425
Casgliad sylweddol ac amrywiol o 19 o straeon byrion cyfoes Cymreig gan awduron megis Rachel Trezise, Niall Griffiths, Leonora Britto, Tristan Hughes, Glenda Beagan a Lloyd Robson, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol byr am bob cyfrannwr.
CHWEFROR 2005
 
SEXY SHORTS FOR LOVERS
Ed. Hazel Cushion
(Accent Press)
£6.99
ISBN 0954489926
Yr olaf mewn cyfres o dair gyfrol elusen yn cynnig casgliad o straeon byrion cyfoes gan lenorion fel Fiona Walker, Carole Matthews, Sarah Harrison a Christina Jones.
IONAWR 2005
 
REBECCA AND THE ANGELS
Brian John
(Greencroft Books)
£8.50
ISBN 0905559835
Stori gyffrous am feistres ifanc a'i theulu yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes cefn gwlad sir Benfro wrth i gyfraniad Martha Morgan yn nherfysgoedd Merched Beca arwain at drasiedi bersonol a brad. Y bedwaredd gyfrol yn y gyfres o bum nofel am Martha Morgan.

Llyfrau 2001


Llyfrau 2002

Llyfrau 2003

Llyfrau 2004

  {(}
{)}