RHAGFYR 2006
MORE WELSH JOURNEYS
Jamie Owen
(Gomer)
£19.99
ISBN 9781843237389 (1843237385)
Cyfrol i gyd-fynd â chyfres deledu newydd BBC Cymru. Bydd Jamie Owen yn ymweld â rhagor o drysorau cudd Cymru, gan gynnwys Mynyddoedd y Preseli, Rheilffordd Tal-y-llyn, Ynys Echni a Phenrhyn Gŵyr.
|
 |
TACHWEDD 2006
WHERE THE FLYING FISHES PLAY
George Brinley Evans
(Parthian)
£7.99
ISBN 9781902638591 (190263859X)
Hanes teimladwy glöwr o'r Banwen a ymunodd â'r fyddin yn 1944. Ceir ei hanes wrth i'w orwelion ledu o ganlyniad i'w deithiau ar draws moroedd a chyfandiroedd llawn perygl, a rhamant rhyfel a fyddai'n newid ei fywyd. |

|
HYDREF 2006
WALKING TO GREENHAM
Ann Pettitt
£8.99 (Honno)
ISBN 9781870206761 (1870206762)
Hunangofiant Ann Pettitt, gwraig nodedig yn hanes heddychiaeth Gwersyll Heddwch Greenham. Cyhoeddir y llyfr i gyd-fynd â dathliadau 25 mlynedd ers i'r gorymdeithwyr cyntaf gyrraedd Comin Greenham. Mae Ann Pettitt, a’i chyfrol, wedi cael cryn gyhoeddusrwydd yn y wasg a’r cyfryngau.
|

|
MEDI 2006
MIDNIGHT MURDERS
Katherine John
(Accent Press)
£6.99
ISBN 9781905170272
Nofel yn llawn tyndra a mileindra iasol. Pan aiff heddwas i orffwys mewn hen ysbyty seiciatryddol, daw wyneb yn wyneb ag ymgyrch sinistr llofrudd peryglus sy'n lladd heb gymhelliad. |

|
AWST 2006
WELSH WIT AND WISDOM
Aubrey Malone
(Y Lolfa)
£5.95
ISBN 0862438632
Casgliad o ddyfyniadau doniol yn perthyn i Gymru gan amryw o arwyr Cymreig fel Aneurin Bevan a Ryan Giggs. |

|
GORFFENNAF 2006
DEATH STUDIES
Lindsay Ashford
(Honno)
£6.99
ISBN 187020686X
Nofel am batholegydd sy'n gorfod ymarfer ei holl sgiliau pan geir hyd i gorff mewn cors yn ymyl ei thŷ haf. Mae'n rhaid iddi ddefnyddio ei holl wybodaeth ynghylch secoleg fforensig a'i greddfau naturiol i ddatrys y dirgelwch am y llofrudd sy'n mynnu dial am weithredoedd drwg yn y gorffennol.
|
 |
MEHEFIN 2006
WELSH NATIONAL OPERA: CELEBRATING THE FIRST 60 YEARS
(Graffeg)
£19.99
ISBN 1905582005
Llyfr yn dathlu trigain mlwyddiant bodolaeth y Cwmni Opera Cenedlaethol o'i ddechreuadau ar ôl yr Ail Ryfel Byd hyd at ddyddiau ei statws rhyngwladol presennol. Yn cynnwys dau draethawd ffotograffig, y naill yn canolbwyntio ar daith y WNO, a'r llall ar ei gartref newydd yng Nghanolfan y Mileniwm. Ceir dros 100 o ffotograffau lliw moethus drwy'r gyfrol.
|
 |
MAI 2006
OVERLAND
Richard Collins
(Seren)
£7.99
ISBN 1854114204
Cafodd nofel gyntaf Richard Collins, The Land as Viewed from the Sea, dderbyniad gwych ac roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2005 ac ar restr fer Gwobrau Whitbread. Gwerthodd yn arbennig o dda. Mae’r nofel hon hefyd yn argoeli’n wych. Fe’i disgrifiwyd fel cofnod bywiog, comic, tyner, gwallgof a hynod wefreiddiol am ddwy siwrne tuag at gariad.
|
 |
EBRILL 2006
HOTEL GWALES
Nigel Jenkins
(Gomer Press)
£8.99
ISBN 184323663X
Casgliad o ryw 80 o gerddi amrywiol gan y bardd nodedig Nigel Jenkins. Cynhwysir cerddi Haiku tair llinell, ynghyd â myfyrdodau maith; ceir cerdd goffa i arwr hynafol, yn ogystal â cherdd i yrrwr bws, ynghyd â cherddi rhyngwladol eu naws.
|
 |
MAWRTH 2006
RUGBY TRIP STORIES
David Jandrell & Matthew Tucker
(Y Lolfa)
£3.95
ISBN 0862438713
Helyntion, digrifwch a straeon doniol teithiau i bencampwriaeth rygbi bwysicaf yn y byd, gyda hanes campau arwrol a chamymddwyn y cefnogwyr ar deithiau blinedig i Gaeredin, Rhufain, Llundain, Paris a Dulyn.
|
 |
CHWEFROR 2006
BY ANY NAME
Katherine John
(Accent Press)
£6.99
ISBN 19051702548
Stori yn ymwneud â gŵr sydd wedi colli’i gof, ac sy'n cael ei amau o fod yn derfysgwr. Mae'n herwgipio ei seiciatrydd Elizabeth Santer, a'i dwyn i Gymru lle ceir gwrthdaro treisgar. Mae hyn yn dadlennu stori sy'n llawn brad a drwgweithredu gwleidyddol. A yw Elizabeth yn nwylo terfysgydd o lofrudd? Mae ei bywyd yn dibynnu ar yr ateb.
|
 |
IONAWR 2006
WALES OF THE UNEXPECTED
Richard Holland
(Gwasg Carreg Gwalch)
£7.50
ISBN 1845270088
Casgliad o straeon goruwchnaturiol sy’n deillio o dreftadaeth llên gwerin Cymru, yn ogystal â straeon modern ynghylch ysbrydion a digwyddiadau anesboniadwy. Mae’r casgliad yn dwyn ynghyd y deunydd a ymddangosodd yng ngholofn Richard Holland o’r un enw yn y North Wales Daily Post. |
 |