National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 
NOFEL Y MIS

Dyma'r teitlau a ddewiswyd yn nofelau'r mis eleni hyd yma. I gael rhagor o fanylion am y llyfrau unigol, ac i archebu ar-lein, cliciwch ar fotwm gwales.com.

__

AWST 2008

Y DYN HANDI

Sion White & Catrin Dafydd
(Y Lolfa)
£6.95
ISBN 9781847710543 (1847710549)
Nofel ysgafn ddarllenadwy iawn am gowboi o adeiladwr hoffus yw Y Dyn Handi, wedi'i hysgrifennu gan Sion White, un o brif gymeriadau'r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm. Mae'r nofel yn dilyn anturiaethau carwriaethol a gyrfaol adeiladwr ac wedi'i seilio'n fras ar rai o gymeriadau'r gyfres, sef Brandan, Gary a Britt Monk. Mae'r nofel yn cael sylw cyson ar Pobol y Cwm ac fe fydd yn cael lansiad yn ystod wythnos yr eisteddfod yng Nghaerdydd ac ar y rhaglen. Cyd-awdur y nofel yw Catrin Dafydd, awdur poblogaidd nofelau megis Pili Pala a Random Deaths and Custard. Mae'n nofel sy'n llawn hiwmor a sgandal, yn siŵr o apelio'n eang ac yn berffaith ar gyfer ei darllen ar wyliau.

Y Dyn Handi

GORFFENNAF 2008

UN NOS OLA LEUAD

Caradog Prichard
(Y Lolfa)
£7.95
ISBN 978184771064 (1847710646)
Argraffiad newydd o hen glasur Caradog Prichard am blentyndod cythryblus mewn pentref chwarelyddol yn Nyffryn Ogwen. Cyhoeddwyd y nofel wreiddiol yn 1961.

Un Nos Ola Leuad

MEHEFIN 2008

NERTH BÔN BRAICH

Amrywiol
(Gwasg y Bwthyn)
£7.95
ISBN 9781904845614 (1904845614)
Nofel gywaith sy'n cynnwys gwaith saith o awduron benywaidd a ysgrifennodd bennod yr un - Sian Eirian Rees Davies, Gwen Lasarus, Rhiannon Thomas, Eurgain Haf, Caron Edwards, Annes Glyn a Janice Jones. Mae'r stori yn troi o amgylch cystadleuaeth i ddod o hyd i ferch gryfa Cymru, a fydd yn ei thro yn cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ar gyfer merched cryfion ledled y byd.

Nerth Bôn Braich

MAI 2008

CHWAER FAWR BLODEUWEDD

Siân Northey
(Gwasg Gwynedd)
£5.95
ISBN 9780860742470 (0860742474)
Roedd gan Flodeuwedd chwaer hŷn, ddim cweit mor dlws, ddim cweit mor berffaith. Dyma nofel i'r arddegau sy'n ymdrin â phethau sy'n bwysig i ferched ifanc - y genfigen a'r gystadleuaeth sy'n bodoli rhwng hyd yn oed y chwiorydd mwyaf cyfeillgar, a'r pwyslais cyson sydd ar ferched i fod yn hardd a thenau. Mae'n cyfuno chwedlau, bywyd heddiw a rhyw fymryn o hud a lledrith.

Chwaer Fawr Blodeuwedd

EBRILL 2008

BETI BWT

Bet Jones
(Y Lolfa)
£6.95
ISBN 9781847710413 (1847710417)
Nofel wedi'i seilio ar atgofion plentyn yn Nhrefor, Pen Llŷn. Ceir darlun byw o fywyd pentrefol Cymreig yn y gyfrol hon a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2007.

Beti Bwt

MAWRTH 2008

BRONCO

Gwyn Thomas
(Cyhoeddiadau Barddas)
£7.95
ISBN 9781906396145 (1906396140)
Un ar ddeg o straeon byrion. Dyma gasgliad o straeon digri, difyr a doniol am gymeriadau bythgofiadwy – cyfrol i ddarllenwyr sydd bron o'u co'!

Bronco

CHWEFROR 2008

ANNWYL SMOTYN BACH

Lleucu Roberts
(Y Lolfa)
£5.95
ISBN 9781847710277 (1847710271)
Nofel wedi ei gosod yn y dyfodol lle mae'r Brawd Mawr yn cadw llygad ar bopeth, yn dilyn ymgais mam feichiog i ddianc ac ymladd yn erbyn y drefn ...

Annwyl Smotyn Bach

IONAWR 2008

LILI DAN YR EIRA

Meinir Pierce Jones
(Gomer)
£8.95
ISBN 9781843237037 (1843237032)
Nofel am hen gartref sy'n llawn cyfrinachau. Stori afaelgar wedi'i lleoli yn Sir Fôn, yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol a'r gymuned amaethyddol.

Lili Dan yr Eira

Nofelau 2000

Nofelau 2001

Nofelau 2002

Nofelau 2003

Nofelau 2004

Nofelau 2005

Nofelau 2006

Nofelau 2007
__

  {(}
{)}