| NOFELAU
Y MIS BLAENOROL (2001) |
__ |
 |
Rhagfyr
2001
Catrin Jones ai Chwmni
Meleri Wyn James
(Gomer)
1843230569
£6.95
Rhagor o helyntion Catrin Jones. Wedi gadael ei swydd
ddiflas yn y cwmni PR, a dianc o grafangau Daniel Diflas,
y bòs o uffern, mae Catrin yn benderfynol o fod
yn wraig fusnes y flwyddyn. Ond, o nabod Catrin, wnaiff
y lwc ddim paran hir. |
 |
|
Tachwedd
2001
Y Goeden Wen
Sonia Edwards
(Gwynedd)
086074177X
£3.95
Nofel a dderbyniodd ganmoliaeth uchel iawn yng nghystadleuaeth
y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych
eleni. Pan mae Nen yn diflannu, fe ddown iw hadnabod
drwy atgofion ei theulu ai ffrindiau.
|
|
Hydref
2001
Draw Dros y Tonnau Bach
Alun Jones
(Gomer)
1843230518
£7.50
Does gan Emyr fawr o ddewis - aros yn uffern ei gartref
gyda'i rieni creulon neu fentro ar ei ben ei hun. Heb
wybod beth sydd o'i flaen, mae'n penderfynu dianc. Nofel
newydd gan awdur y clasur Ac
Yna Clywodd Sŵn y Môr. |
|
Medi
2001
Llafur Cariad
Gareth Miles
(Hughes)
0852843119
£7.99
Seiliwyd y nofel ar y gyfres deledu boblogaidd Llafur
Cariad a ddarlledwyd ar S4C, gan bortreadu
hanes y Blaid Lafur yng Nghymru o gyfnod cythryblus refferendwm
1979 hyd heddiw.
|
 |
Awst
2001
Y Ddynes Ddirgel
Mihangel Morgan
(Y Lolfa)
0862433045
£5.95
Dychwelwn i fyd Mr Cadwaladr - i'r ddinas brysur, beryglus,
llawn dieithriaid a chysgodion od o'r gorffennol. Dilyniant
i'r nofel Dirgel Ddyn
a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 1993. |
 |
Gorffennaf
2001
Ein Llyw Cyntaf
Twm Morys
(Gomer)
1843230313
£5.95
Nofel
ddychanol am sefydlu tiriogaeth Gymreig yng nghanolbarth
Cymru, a hynny o fewn Prydain sydd dan reolaeth y Natsïaid.
Ysgrifennwyd y nofel wreiddiol gan Jan Morris a'i haddasu
gan Twm Morys. |
|
Mehefin
2001
Gwirioni
Shoned Wyn Jones
(Y Lolfa)
0862435269
£4.95
Sut y gallai merch mor gall â Gwenan fod mor ffôl,
yn gwirioni ar rywun fel y Dyfan Hughes na?
Nofel emosiynol a threiddgar yw hon, yn portreadu darlun
trist o berthynas syn chwalu, gan droi o fod yn
freuddwyd i fod yn hunllef. |
 |
Mai
2001
Cywion Nell
Addasiad Peredur Lynch
(Gwasg Taf)
0948469714
£4.95
Dreiges oedd Nelly Veronica Hughes. A phan ddarganfuwyd
Nelly wedi'i thagu i farwolaeth roedd yr achos yn agored
led y pen... |
 |
Ebrill
2001
Am fod Seth yn Angel
Aled Islwyn
(Gomer)
1859029876
£7.95
Nofel afaelgar am ymddiriedaeth ac am dwyll yw hon, nofel
am gyfeillgarwch a brad. Dyma hanes cymeriadau syn
gadael iw dyhedadau fynd yn drech na nhw, gyda chanlyniadau
trychinebus ... |
|
Mawrth
2001
Dilyn
Sgwarnog
Annes Glynn
(Gwynedd)
0860741737
£5.95
Galwad ffôn yn addo uffar o stori! Dyna
fan cychwyn y siwrne syn arwain Saran Huws, gohebydd
gydar papur lleol, i ddilyn sawl trywydd amrywiol
er mwyn dod at wraidd y gwir. |
|
Chwefror
2001
O
Afallon i Shangri La
Llion Iwan
(Gomer)
1859029191
£6.95
Taith anturus ar gefn beic ar hyd un o ardaloedd mwyaf
anial y byd a geir yn y gyfrol hon . . . gwireddu breuddwyd,
gwthio corff ac ysbryd ir eithaf, a chael profiadau
bythgofiadwy. |
|
Ionawr
2001
Yr Ias yng Ngruddiaur Rhosyn
Gwyn Llewelyn
(Carreg Gwalch)
0863816541
£6
Mae hon yn fwy na nofel antur gyffrous maen
ymdriniaeth hefyd o ddadrithiad ac or newid a fu
mewn moesau dros dair cenhedlaeth. Nofel glyfar
ac amlhaenog . . . awdur crefftus ac amryddawn.
(Meinir Pierce Jones) |
|
|