Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 
NOFEL Y MIS

Dyma’r teitlau a ddewiswyd yn nofelau’r mis eleni hyd yma. I gael rhagor o fanylion am y llyfrau unigol, ac i archebu ar-lein, cliciwch ar fotwm gwales.com.

__
RHAGFYR 2004
 
TOCYN I'R NEFOEDD
Dafydd Llewelyn
(Gwasg y Dref Wen)
£6.99
ISBN 1855966476
Nofel gyntaf ddoniol a ddychanol am weinidog ifanc yn darogan y rhifau loteri cywir gan arwain at ganlyniadau digrif a dwys.
TACHWEDD 2004
 
RHAGOM
Angharad Tomos
(Gwasg Carreg Gwalch)
£6.00
ISBN 0863819397
Nofel am filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'i nai yn yr Ail Ryfel Byd, gan awdures boblogaidd ac ymgyrchwraig wleidyddol.
HYDREF 2004
 
Y LLAW WEN
Alun Jones
(Gwasg Gomer)
£7.99
ISBN 1843234416
Nofel rymus gan un o nofelwyr mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd Cymru
MEDI 2004
 
CARNIFAL
Robat Gruffudd
(Y Lolfa)
£6.95
ISBN 0862436753
Nofel ddychanol, ddoniol am helyntion rhai o fawrion y genedl Gymreig yn crwydro o Fae Caerdydd i garnifalau a chynadleddau Ewrop.
AWST 2004
 
WALIA WIGLI
Goronwy Jones (Dafydd Huws)
(Y Lolfa)
£6.95
ISBN 0862436966
Cyfrol arall o helyntion difyr y Dyn D
ŵad yng Nghaerdydd a choridorau'r Cynulliad Cenedlaethol. Dilyniant i Dyddiadur Dyn Dŵad ac Un Peth ’Di Priodi, Peth Arall ’Di Byw.
GORFFENNAF 2004
 
Y GAUCHO O'R FFOS HALEN
Carlos D. Ferrari, addasiad Gareth Miles
(Gwasg Carreg Gwalch)
£7.00
ISBN 0863819222
Addasiad o nofel Sbaeneg yn adrodd hanes y Cymry a deithiodd ar fwrdd llong y Mimosa i Batagonia ym 1865 gan ddilyn hynt un gŵr ifanc a ymunodd â Chatrawd y Saethwyr (La CompanIa de Rifleros), y fintai gyntaf i groesi'r paith hyd at fynyddoedd yr Andes, ac a gyfarfu â chewri fel Francisco P. Moreno, Luis J. Fontana, Butch Cassidy a'r Sundance Kid.
MEHEFIN 2004
 
CASGLWR
Llion Iwan
(Gwasg Gomer)
£6.99
ISBN 1843233533
Nofel ddatrys a dirgelwch afaelgar, wedi ei lleoli yn Nyffryn Conwy, am ohebydd papur newydd yn baglu ar draws stori arswydus sy'n ei arwain i'r gorffennol.
MAI 2004
 
CASGLWR
Llion Iwan
(Gwasg Gomer)
£6.99
ISBN 1843233533
Nofel ddatrys a dirgelwch afaelgar, wedi ei lleoli yn Nyffryn Conwy, am ohebydd papur newydd yn baglu ar draws stori arswydus sy'n ei arwain i'r gorffennol.
EBRILL 2004
 
DAL DY DIR
Iola Jôns
(Gwasg Gomer)
£6.99
ISBN 1843233754
Nofel ddifyr am dair athrawes sy'n rhannu ty yn Sir Drefaldwyn ond sy'n profi newid byd pan mae un ohonynt yn marw mewn damwain car. Nofel i oedolion ifanc.
MAWRTH 2004
 
JARA
Gareth Ff. Williams
(Gwasg Gomer)
£5.99
ISBN 1843232448
Nofel gyfoes sy'n seiliedig ar sgriptiau'r gyfres deledu dywyll, llawn tyndra, i'r arddegau.
CHWEFROR 2004

CLEDDYF LLYM DAUFINIOG
Elgan Philip Davies
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
£8.99
ISBN 1902416910
Nofel dditectif rymus a darllenadwy am helyntion proffesiynol a phersonol aelodau o heddlu Dyfed-Powys wrth iddynt ymchwilio i lofruddiaeth merch ifanc, gan awdur sy’n feistr ar y genre. Dilyniant i Fel y Dur.
IONAWR 2004
 
CRONICLAU PENTRE SIMON
Mihangel Morgan
(Y Lolfa)
£6.95
ISBN 086243680X
Nofel ddeifiol, ddifyr ac arloesol gan un o'n awduron mwyaf toreithiog a llwyddiannus.

Nofelau 2000

Nofelau 2001

Nofelau 2002


Nofelau 2003

__

  {(}
{)}