CLLC National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Ymholiadau
Golygu
Hybu a Marchnata
Hybu / Marchnata
Dosbarthu
Grant Cyhoeddi
 
 

Y CYNLLUN YMESTYN

Beth yw’r Cynllun Ymestyn?

  • Cynllun sy’n helpu llyfrwerthwyr a rhai sy’n trefnu gweithgareddau i gydweithio â’i gilydd er mwyn cynnal stondinau llyfrau mewn digwyddiadau bach a mawr ledled Cymru. Cefnogir y Cynllun Ymestyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

__  

Pwy sy’n elwa o’r Cynllun, a sut y caiff ei drefnu?

  • Mae’r Cynllun o fudd i drefnwyr, llyfrwerthwyr a chyhoeddwyr fel ei gilydd.

  • Gall stondin lyfrau ychwanegu haen arall at ddigwyddiad heb greu fawr ddim gwaith ychwanegol i drefnwyr prysur.

  • Mae llyfrwerthwyr yn derbyn grant digolledu ynghyd â chyngor arbenigol ynglŷn â theitlau addas pan fyddant yn mynd â stondin i ddigwyddiad neu’n cynnal digwyddiad yn y siop y tu allan i’r oriau masnachu arferol.

  • Gallant hefyd fenthyg silffoedd llyfrau symudol a chael llyfrau ar delerau gwerthu-neu-ddychwel gyda chaniatâd y Ganolfan Ddosbarthu.

  • Mae’r Cynllun yn helpu cyhoeddwyr drwy hyrwyddo gwerthiant pob categori o lyfrau Cymraeg a Chymreig. Gall fod yn fodd i gyflwyno llyfrau mewn ffordd wahanol a chreu marchnadoedd newydd.

  • Mae tros 100 o siopau eisoes yn aelodau o’r Cynllun Ymestyn.

__  

Pa fath o ddigwyddiadau sy’n gymwys?

  • Pob math – o wyliau diwylliannol i gynadleddau, o lansiadau i nosweithiau cymdeithasol a ffeiriau ysgol.

  • Mae’r Cynllun bellach yn cefnogi dros 300 o ddigwyddiadau bob blwyddyn, a phob un ohonynt yn unigryw.

__  

Pa lyfrau sy’n cael eu hybu?

  • Natur y digwyddiad sy’n penderfynu pa fath o deitlau sydd ar werth, a gellir cynnig amrywiaeth eang o lyfrau Cymraeg ac o lyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig.

  • Mae Gweinyddwr y Cynllun bob amser yn barod i drafod teitlau addas, ac i roi pob cymorth i drefnydd y digwyddiad ac i’r llyfrwerthwr i greu stondin dda.

__  

Beth yw’r cam nesaf?

  • Os ydych yn drefnydd sydd am gynnwys stondin lyfrau mewn digwyddiad, neu’n llyfrwerthwr sydd am fynd â stondin i ddigwyddiad lleol neu genedlaethol, cysylltwch ag:

Emma Evans (Swyddog Gweinyddol y Cynllun Ymestyn)
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2JB.
Tel: 01970 624151 Ffacs: 01970 625385
e-bost: emma.evans@cllc.org.uk

__  
  __  

  {(}
{)}