
Dafydd
Charles Jones, Rheolwr y Ganolfan Ddosbarthu. |
DOSBARTHU
- Mae
Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig
gwasanaeth dosbarthu cyfanwerthu ir fasnach
lyfrau yng Nghymru. Maer adeilad pwrpasol yn
cynnwys stoc eang o lyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg
o Gymru neu o ddiddordeb Cymreig.
- Daw
hyd at 1,300 o lyfrau newydd Cymraeg a llyfrau Saesneg
o Gymru neu o diddordeb Cymreig or wasg yn flynyddol.
Anelir at stocio pob llyfr posibl sydd o ddiddordeb
Cymreig, lle gall cyhoeddwyr gynnig telerau cyfanwerthu.
Gall cyhoeddwyr gynnig teitlau ir Ganolfan Ddosbarthu
trwy gysylltu â Dafydd Charles Jones, y Rheolwr
(manylion isod).
- Gellir
dod o hyd i wybodaeth am yr holl lyfrau a gedwir mewn
stoc yn y Ganolfan Ddosbarthu drwy ymweld â
safle www.gwales.com.
- Mae
gan dros 800 o siopau gyfrifon yn y Ganolfan Ddosbarthu.
Cynigir gwasanaeth dosbarthu diwrnod-wedyn i siopau
llyfrau syn archebu cyn hanner dydd. Codir tâl
cludiant os ywr archebion yn werth llai na £66.66
net. Gall llyfrwerthwyr gysylltu âr cyfeiriad
isod os ydynt am wneud cais am agor cyfrif.
- Maer
Ganolfan Ddosbarthu yn gwasanaethu 350 o gyhoeddwyr.
Am restr ddethol o gyhoeddwyr Cymru cliciwch ar y
botwm Cysylltiadau uchod.
- Gwerthwyd
776,032 o eitemau yn 2007/08 trwy Ganolfan Ddosbarthur
Cyngor Llyfrau, gwerth £5.5 miliwn (gros). Roedd
hwn yn gynnydd o 13.38% ar werthiant y flwyddyn flaenorol.
Bu
cynnydd cyson yn ffigurau gwerthiant y Ganolfan Ddosbarthu
ers 1990 ac mae'r Ganolfan yn cyrraedd ei thargedau
blynyddol. Cafwyd cynnydd o 25.35% dros y ddwy flynedd
ddiwethaf.
- Dosberthir
y cynnyrch i dros 800 o leoedd ar ran 350 o gyhoeddwyr.
- Maer
Ganolfan Ddosbarthu yn hunangynhaliol, ac nid ywn
derbyn unrhyw nawdd tuag at ei chynnal trwyr
pwrs cyhoeddus.
|
__ |
|
Dylid
cyfeirio pob ymholiad at:
Dafydd Charles Jones (Rheolwr)
Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru,
Parc Menter Glanyrafon,
Aberystwyth,
Ceredigion SY23 3AQ.
Tel 01970 624455 Ffacs 01970 625506
e-bost canolfan.ddosbarthu@cllc.org.uk
|
__ |
|
|