CLLC National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Ymholiadau
Golygu
Hybu a Marchnata
Hybu / Marchnata
Dosbarthu
Grant Cyhoeddi
 
 
Arwyn

Sion Ilar, Uwch-Swyddog Dylunio

DYLUNIO

Mae’r Adran Ddylunio yn cynnig gwasanaeth dylunio i gyhoeddwyr yng Nghymru. Bob blwyddyn bydd hyd at 150 o deitlau gwahanol yn mynd trwy ddwylo’r Adran.

Mae’r Adran yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • Dylunio cloriau llyfrau

  • Dylunio llyfrau o glawr i glawr

  • Darparu deunydd gweledol, megis darluniau a ffotograffau, ar gyfer llyfrau.

Mae’r Uwch-Swyddog Dylunio a’r Swyddog yn ddylunwyr graffig profiadol. Er eu bod yn ymgymryd â rhan sylweddol o waith yr Adran eu hunain, maent hefyd yn cydweithio â rhwng 30 a 40 o ddylunwyr, darlunwyr a ffotograffwyr allanol, gan fanteisio ar eu harbenigedd yn y gwahanol feysydd.

Yr Adran sy’n gyfrifol am ddylunio holl gyhoeddiadau mewnol Cyngor Llyfrau Cymru, yn ogystal â chynllunio a chynnal gwefan y Cyngor.

Gwahoddir dylunwyr a darlunwyr a fyddai’n hoffi gweithio ar lyfrau i gysylltu â ni. Am ragor o fanylion, neu os am drafod unrhyw agwedd ar waith yr Adran, cysylltwch ag:

Sion Ilar (Uwch-Swyddog Dylunio)
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151 Ffacs: 01970 625385
e-bost:
sion.ilar@cllc.org.uk

 

 
__
  __  

  {(}
{)}