|
GOLYGU

Marian Beech Hughes, Uwch-Swyddog Golygyddol
Mae’r Adran Olygyddol yn gwasanaethu cyhoeddwyr ac awduron Cymru, ac fe fyddwn yn delio ag oddeutu 200 o deipysgrifau bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt yn Gymraeg. Rydym yn ymdrin â deunydd darllen hamdden yn unig; ni fyddwn yn ymdrin â deunydd addysgol.
Gwasanaethu Cyhoeddwyr
Rydym yn cynnig i’r cyhoeddwyr wasanaeth golygyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg, h.y. golygu teipysgrifau a chywiro proflenni. Bydd yr Adran yn gweithredu yn y modd hwn ar ran hyd at 20 o gyhoeddwyr, gan fanteisio ar gymorth tîm bychan o olygyddion a darllenwyr allanol profiadol yn ôl yr angen.
Gwasanaethu Awduron
Cynigir i awduron wasanaeth cloriannu teipysgrifau. Mae croeso i unrhyw awdur sy’n dymuno derbyn cyngor ar ei waith gysylltu’n uniongyrchol â’r Adran Olygyddol a gellir trefnu i gael barn annibynnol gan ddarllenydd allanol ar y gwaith hwnnw. Anelir bob amser at ddewis darllenydd addas fydd yn cyflwyno adroddiad teg ac adeiladol; ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
Os byddai’n well gan awdur gysylltu’n uniongyrchol â chyhoeddwyr, ar wefan gwales.com gellir cael gwybodaeth am gyhoeddwyr yng Nghymru. Ewch i Cysylltiadau ar y dudalen flaen > Y Fasnach Lyfrau Ar-lein > Cyhoeddwyr.
Cyrsiau
O bryd i’w gilydd, trefnir cyrsiau’n ymwneud â golygu a chywiro proflenni, gan gydweithio â chyrff proffesiynol eraill yn ôl y gofyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gan ein bod yn gwneud defnydd cyson o olygyddion a darllenwyr allanol dibynadwy, mae croeso i unrhyw un sydd â phrofiad perthnasol mewn un o’r meysydd hyn gysylltu
â ni i holi am fanylion pellach.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith yr Adran Olygyddol, mae croeso i chi gysylltu â’r canlynol:
Marian Beech Hughes (Uwch-Swyddog Golygyddol)
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151 Facs: 01970 635385
e-bost: eleri.huws@wbc.org.uk
neu wbc.editorial@wbc.org.uk
|