Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 

BARDD PLANT CYMRU

Menter sy'n cael ei weinyddu gan S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Urdd Gobaith Cymru a'r Academi yw Bardd Plant Cymru. Y bwriad yw codi proffil barddoniaeth ymysg plant a phobl ifanc a'u hannog i greu a mwynhau barddoniaeth.



   
BARDD PLANT CYMRU 2008–2009

Ar 27 Mai, ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy, trosglwyddodd Caryl Parry Jones mantell Bardd Plant Cymru, ac yn cyhoeddi mai Bardd Plant Cymru 2008-2009 yw Ifor ap Glyn o Gaernarfon.
   
BARDD PLANT CYMRU 2007–2008

Ddydd Mawrth, 29 Mai, mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, cyhoeddwyd mai Caryl Parry Jones yw Bardd Plant Cymru 2007–2008. Bydd yn ymweld ag ysgolion yn ystod y flwyddyn ac yn cynnal gweithdai barddoniaeth gyda phlant trwy e-bost.
   
BARDD PLANT CYMRU 20062007

Gwyneth Glyn oedd Bardd Plant Cymru 2006–2007.
   
BARDD PLANT CYMRU 20052006

Mererid Hopwood oedd Bardd Plant Cymru 2005–2006.

 

__
Yn dilyn camp David Davies yng Ngêmau'r Gymanlwad yn Melbourne cyfansoddodd Mererid Hopwood, Bardd Plant Cymru 2005–2006 gerdd arbennig i'w gyfarch ar ei lwyddiant.

I Gyfarch y Pencampwr David Davies


Gŵyr pawb o Fynwy i Sir Fôn,
a phawb drwy'r ddaear gyfan,
fod dreigiau'n chwythu mwg a thân
a'u bod yn medru hedfan.

Ond yn nhre'r Barri, mae 'na un
sy'n llawer mwy peryglus
na dreigiau'r byd i gyd yn grwn –
a'i enw? David Davies!

Hwn yw'r ddraig a ddysgodd grefft
holl bysgod chwim yr afon,
er na all tonnau dyfna'r môr
fyth ddiffodd tân ei galon.

Mae'n rasio ar adenydd coch,
yn rhwydd, yn rhydd mae'n nofio
nes llosgi llwybr aur drwy'r pwll,
mae'n arwr – mae e'n Gymro!

Mererid Hopwood
Bardd Plant Cymru 2005–2006


BARDD PLANT CYMRU 20042005

Tudur Dylan Jones oedd Bardd Plant Cymru 2004–2005. Bu'n ymweld ag ysgolion yn ystod y flwyddyn ac yn cynnal gweithdai barddoniaeth gyda phlant ar y we.
 

BARDD PLANT CYMRU 20032004

Ceri Wyn Jones oedd Bardd Plant Cymru 2003–2004. Yn ystod y flwyddyn bu'n ymweld ag ysgolion ledled Cymru i annog disgyblion i greu barddoniaeth ac yn cynnal gweithdai ar-lein. Ymhlith uchafbwyntiau'r flwyddyn gellir nodi'r gweithdy penwythnos a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Urdd ym Mhentre Ifan, Sir Benfro, gyda phlant o Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle'r Ynn, Llansawel.

 

 

 

MERCH YN FARDD PLANT CYMRU 20022003

Menna Elfyn oedd Bardd Plant Cymru 2002–2003. Yn ystod y flwyddyn ysgrifennodd nifer o gerddi ar themâu arbennig, yn ogystal ag ymweld ag ysgolion ledled Cymru i annog disgyblion i greu barddoniaeth.
Cyhoeddwyd cyfrol o'r cerddi a luniwyd yn ystod y flwyddyn gan Menna a beirdd ifanc Cymru, o dan y teitl Caneri Pinc ar Dywod Euraid.

__

Bardd Plant Cymru 2001

Mei Mac (Meirion MacIntyre Huws) oedd Bardd Plant Cymru 2001. Ysgrifennodd nifer o gerddi yn ystod y flwyddyn gan deithio o amgylch y wlad yn ymweld ag ysgolion ac yn annog plant i greu barddoniaeth. Ysgrifennodd gerdd newydd,'Y Pethau Bychain', ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2001. Cyhoeddwyd cyfrol o'r cerddi a luniwyd yn ystod y flwyddyn gan Mei Mac a chyw feirdd Cymru, o dan y teitl Rhedeg Ras Dan Awyr Las.

 

__

Bardd Plant Cymru 2000

Myrddin ap Dafydd oedd y person cyntaf erioed i wisgo mantell Bardd Plant Cymru. Yn ystod ei flwyddyn cynhaliodd nifer o weithdai mewn ysgolion ac un yn Stadiwm y Mileniwm. Cyfansoddodd nifer o gerddi ac fe'u cyhoeddwyd yn y gyfrol Jam Coch mewn Pwdin Reis, cerddi Bardd Plant Cymru 2000 a beirdd ifanc Cymru.
 
  __



  {(}
{)}