Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 


Lila Piette, Swyddog y Cynllun Ysgolion.
GWASANAETHAU I YSGOLION A LLYFRGELLOEDD

Y Cynllun Ysgolion

Mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfle gwych i athrawon a llyfrgellwyr gadw eu bys ar y botwm a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am lyfrau ac adnoddau Cymraeg a Chymreig y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Sut mae’r cynllun yn gweithredu?

Y Swyddogion Maes
Mae pedwar swyddog yn teithio trwy Gymru gyfan yn ymweld ag ysgolion er mwyn rhoi arddangosfa o lyfrau a deunyddiau addysgol ac i gasglu archebion – tri ohonynt yn y sector cynradd ac un yn yr uwchradd. Mae’r arddangosfeydd hyn yn rhoi cyfle gwych i athrawon bori yn y llyfrau yn ogystal â chael cyngor a chymorth gan swyddogion profiadol.

Gellir hefyd chwilio am wybodaeth am yr holl lyfrau sydd ar gael ar gronfa ddata’r Cyngor Llyfrau ar y we trwy edrych ar ein safle www.gwales.com ar gyfrifiaduron pen-glin y swyddogion. Cesglir archebion gyda chymorth y cyfrifiadur ac fe’u prosesir trwy siop leol o ddewis yr ysgol.

Mae’r swyddogion hefyd yn ymweld â llyfrgelloedd ac yn trefnu arddangosfeydd mewn cynadleddau a chyrsiau.

Os am drefnu ymweliad, neu am ragor o fanylion am y cynllun, cysylltwch â Lila Piette, Swyddog Cyswllt Ysgolion
01970 624151 e-bost: lila.piette@cllc.org.uk

Pecyn Tymhorol y Cynllun

Bob tymor danfonir pecyn cynhwysfawr i bob ysgol yng Nghymru, ac i nifer o lyfrgelloedd, yn cynnwys posteri lliwgar, taflenni gwybodaeth am lyfrau, taflenni Adnabod Awdur yn rhoi manylion diddorol a defnyddiol am awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg neu yn Saesneg am Gymru, a thaflenni gan y cyhoeddwyr yn rhoi gwybodaeth am gyhoeddiadau newydd.

Y Swyddogion

Swyddog Cyswllt:
Lila Piette


   
Swyddogion Cynradd:
Wendy Roberts
Roy Lewis
Alun Evans

__


Swyddog Uwchradd:
Shoned Mererid Davies
__
__

  {(}
{)}