|
CYSTADLAETHAU
LLYFRAU CYMRAEG 2003
Cynhaliwyd rownd derfynol y Cystadlaethau Llyfrau Cymraeg
yn Aberystwyth yn ddiweddar. Eleni, am y tro cyntaf,
roedd dwy gystadleuaeth, un ar gyfer plant Blwyddyn
3 a 4 ac un arall ar gyfer plant Blwyddyn 5 a 6.
Daeth 26 o dîmau i gystadlu yng Nghanolfan y Celfyddydau,
Aberystwyth ac fe gafwyd diwrnod byrlymus, bywiog a
llwyddiannus iawn.
Roedd pob tîm yn gorfod darllen stori fer a gomisiynwyd
yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth, ac yna trafod
eu syniadau amdani gydar beirniad. Roedden
nhw hefyd wedi paratoi cyflwyniad dramatig o lyfr ou
dewis.
Eleni, y tîmau a ddaeth ir brig ym Mlwyddyn
3 a 4 oedd:
1af Ysgol Twm or Nant, Dinbych

2il Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd

3ydd Ysgol y Login Fach, Abertawe

Ysgol Bro Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr
Yng nghystadleuaeth
Blwyddyn 5 a 6 y buddugwyr oedd:
1af Ysgol Edern, Gwynedd

2il Ysgol Llanddoged, Conwy

3ydd Ysgol Gymraeg Pontadawe, Nedd a Phort
Talbot
Llongyfarchiadau ir plant ac iw hathrawon.
|
__ |
|