Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 

NEWYDDION SBRI-DI-RI a SBONDONICS


PENWYTHNOS GWYCH YM MHENTRE IFAN!

Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle'r Ynn, Llansawel, benwythnos cyffrous iawn yn sir Benfro yn ddiweddar!

Cawsant amser i'w gofio yng nghwmni T. Llew Jones a Ceri Wyn Jones, diolch i glwb llyfrau Sbondonics a chynllun Bardd Plant Cymru. Yn ogystal â'r sesiynau awdur a bardd, cawsant gyfle hefyd i gartio, sglefrolio a nofio, ymweld â Bryngaer Castell Henllys, cromlech Pentre Ifan a glan y môr. Gyda chymorth hael yr Urdd, bu'r wobr hon yn un wirioneddol werth ei hennill.

Bwriedir trefnu cystadleuaeth debyg y flwyddyn nesaf eto a bydd y manylion yn cael eu hanfon i'r ysgolion gyda thaflenni Tymor y Gwanwyn 2005. Gwnewch yn siwr eich bod yn cael cyfle i gystadlu!



Creu cerddi yng Nghastell Henllys





Rhannu hwyl llyfrau gyda T. Llew Jones




Plant Ysgol Tyle’r Ynn yng Nghromlech Pentre Ifan




Gweithdy gyda Ceri Wyn Jones, Bardd Plant Cymru 2003–2004


 

 







  {(}
{)}