Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
 
 
TLWS MARY VAUGHAN JONES

Cyflwynir Tlws Mary Vaughan Jones bob tair blynedd i berson a wnaeth gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd.

Gwobr: Tlws arian yn portreadu cymeriadau o lyfrau Mary Vaughan Jones. Llunnir y tlws gan Canolfan Aur Cymru, Tregaron.

Enillwyr

2006 Mair Wynn Hughes
2003 Elfyn Pritchard
2000 J Selwyn Lloyd
1997 Roger Boore
1994 W J Jones
1991 T Llew Jones
1988 Emily Huws
1985 Ifor Owen


__

Mair Wynn Hughes (ar y dde), enillydd Tlws Mary Vaughan Jones, 2006.



Mary Vaughan Jones (1918-1983)
Sefydlwyd y wobr hon er mwyn coffáu cyfraniad sylweddol ac unigryw Mary Vaughan Jones i faes llyfrau plant yng Nghymru.

Roedd Mary Vaughan Jones yn athrawes ysbrydoledig, a bu ei chyfraniad fel athrawes ac fel darlithydd coleg o werth amhrisiadwy i addysg Gymraeg. Ond mae’n debyg mai ei chyfraniad mwyaf gwerthfawr, er hynny, oedd ei chyfraniad cyfoethog a chyson i faes llyfrau plant dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain ymron, a hynny er gwaethaf brwydr boenus yn erbyn afiechyd cynyddol. Cyhoeddwyd tua deugain o’i llyfrau, a chyfrannodd yn rheolaidd i gylchgronau’r Urdd.

    __

  {(}
{)}