Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

23 Hydref 2003
 
YN ÔL I’R GORFFENNOL
 
Cynhaliodd y Cyngor Llyfrau ei Chynhadledd Llyfrau Plant gyntaf bum mlynedd ar hugain yn ôl yng Ngregynog ar y thema ‘Plant a’u Darllen’, ac y mae’n briodol fod y gynhadledd yn dychwelyd i Bowys eleni gan ddilyn yr un thema.
 
Unwaith eto bydd cyfle i’r gynulleidfa glywed nifer o awduron amlwg yn trafod eu gwaith a’r pleser y maent yn ei gael o ysgrifennu llyfrau i bobl ifanc.
 
Cyflwynir y ddarlith agoriadol ar y nos Wener gan Alan Gibbons, enillydd y Blue Peter Award yn 2000 am ei gyfrol Shadow of the Minotaur.  Bu’r nofel honno ar restr fer gwobr Carnegie yn 2001 a’i nofel The Edge ar restr fer Carnegie yn 2003.
 
Ceir cyflwyniadau hefyd gan nifer o nofelwyr ifanc gan gynnwys Gwyneth Glyn, Caryl Lewis, Nia Jones, Anwen Francis ac Aled Richards, a cheir cyfle gwych i’w clywed yn trafod eu profiadau yn ysgrifennu.
 
Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd eleni fydd cyflwyno Tlws Mary Vaughan Jones i Elfyn Pritchard gan gydnabod ei gyfraniad arbennig i lenyddiaeth plant yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.  Eleni, cafodd hefyd ei anrhydeddu am nofel i oedolion, gan ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod am ei nofel Pan Ddaw’r Dydd …?.
 
Bydd gwobrau Tir na n-Og hefyd yn cael eu cyflwyno yn y gynhadledd; y rhain yw’r prif wobrau llenyddiaeth a gyflwynir yn flynyddol i awduron llyfrau plant yn y categorïau canlynol: Ffuglen Orau’r Flwyddyn, Llyfr Gorau’r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen, a Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn.
 
‘Gyda’r holl awduron hyn yn bresennol, fe fydd hi’n siw?r o fod yn gynhadledd arbennig,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru.  ‘Y mae’r gynhadledd bob amser yn gyfle gwych i bobl sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth plant ddod at ei gilydd, ac i roi sylw penodol i’r maes pwysig hwn.’
 
Cynhelir y gynhadledd eleni yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod, nos Wener/dydd Sadwrn 7–8 Tachwedd.  Gellir cysylltu â’r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth am fwy o wybodaeth a chopi o’r ffurflen gofrestru.
 
Am fanylion pellach cysyllter ag:  Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB
T (01970) 624151  F (01970) 625385  elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}