|
Dewch i brofi cyfoeth treftadaeth lenyddol Cymru drwy ymweld â Stondin Llenyddiaeth Cymru yng Ngŵyl y Gelli rhwng 22 Mai – 1 Mehefin 2008.
Eleni, bydd stondin Llenyddiaeth Cymru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau llawn ysbrydoliaeth yn cynnwys llenorion Cymreig sydd wedi ennill gwobrau ar 26 Mai 2008, cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, gyda derbyniad a sesiwn llofnodi gyda'r awduron sydd ar y rhestr fer. Hefyd ar y 26 Mai, bydd cyfle i gwrdd â Golygyddion ac awduron casgliad clasurol Parthian Books/Library of Wales mewn derbyniad bore.
Bydd y llenor, Owen Sheers, yn darllen detholiad o 'Resistance' (Faber, 2007), bydd Niall Griffiths yn cyflwyno 'Ten Pound Pom' (Parthian, 2008), a bydd Nia Wyn yn darllen o'i nofel ddiweddaraf, 'Blue Sky July' (Seren, 2007). Bydd y bardd a'r darlithydd, John Goodby, ('Uncaged Sea', Waterloo Press, 2008), yn trafod ei waith gyda'r grŵp arbrofol, aml-gyfryngol, 'Boiled String'. Ac i nodi achlysur cyhoeddi Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, 2008, bydd y golygyddion, John Davies, Menna Baines, Peredur Lynch a Nigel Jenkins yn trafod y gwaith arloesol hwn.
Bydd hefyd cyfle i brynu amrywiaeth eang o lyfrau ardderchog, yn cynnwys cyfres clasuron poblogaidd Library of Wales, y ffuglen ddiweddaraf i blant, a gwaith gan awduron cyfoes Cymru.
Mae'r stondin Llenyddiaeth Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Academi, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Nod y bartneriaeth yw hyrwyddo llenyddiaeth a llenorion o Gymru i gynulleidfaoedd yn y DU a thramor.
Mae Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth yn falch o gefnogi Stondin Llenyddiaeth Cymru:
"Mae'r digwyddiadau sy'n cymryd lle ar stondin Llenyddiaeth Cymru yn gynrychiolaeth o'r cyfoeth a'r amrywiaeth o dalent sydd gan Gymru i gynnig. Bydd sylw'r byd llenyddol ar Gymru yn ystod yr wythnos fydd yn codi proffil yr hyn sydd ganddi i'w gynnig. Mae cael rhai o'n hysgrifennwyr mwyaf blaenllaw yn darllen eu gweithiau eu hunain yn ystod yr ŵyl yn ardderchog a dwi'n siwr bydd Gŵyl y Gelli unwaith eto yn profi'n ysbrydoliaeth i lawer". |