|
CYMORTH ARIANNOL I’R WASG GYMRAEG
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru heddiw mai cwmni Golwg Cyf. fydd yn derbyn yr arian a glustnodwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi'r wasg Gymraeg.
Hysbysebwyd y tendr yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, fod £200,000 y flwyddyn dros dair blynedd wedi'i glustnodi tuag at ddatblygu'r wasg Gymraeg a'i fod yn rhoi'r cyfrifoldeb o weinyddu'r grant i'r Cyngor Llyfrau, y corff a chanddo gyfrifoldeb am y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau: 'Roedd y Panel yn unfryd mai Golwg a gynigiodd y cynllun mwyaf cyflawn a chytbwys o ran manteisio i'r eithaf ar bosibiliadau'r dechnoleg newydd a chryfhau'r ddarpariaeth brint bresennol. Llawn mor arwyddocaol oedd fod y cais aml-lwyfannog hwn wedi'i seilio ar brofiad newyddiadurol cryf.'
Bydd y Cyngor Llyfrau yn awr yn dechrau trafodaethau ar fyrder gyda chwmni Golwg ynglŷn â manylion gweithredu'r cynllun cyffrous hwn.
Am ragor o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB T (01970) 624151 F (01970)
625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk |