National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Cefndir
Amcanion
Ffeithiau
Pwyllgorau
Staff
Cyfeillion
Canolfan
Cyhoeddiadau
Cyfarfodydd
 
 

AMCANION
Y mae llawer o waith y Cyngor Llyfrau’n ymwneud â darparu gwasanaethau sylfaenol i’r fasnach gyhoeddi. Dyma’r prif swyddogaethau craidd:

  • Hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, ynghyd â deunydd cyffelyb arall, trwy ddarparu gwybodaeth a thrwy raglen lawn o weithgarwch.

  • Hybu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau trwy ddarparu rhychwant o wasanaethau a thrwy gyd-gysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd.

  • Cynorthwyo a chefnogi awduron trwy ddarparu gwasanaethau a thrwy ddyfarnu grantiau/comisiynau a sianelir trwy gyhoeddwyr.
  • Dosbarthu grantiau i gynorthwyo cyhoeddi deunydd o ansawdd yn y Gymraeg a'r Saesneg gan sicrhau bod y cynnyrch ar gael yn y eang.

Mae’r prif amcanion yn codi o’r swyddogaethau craidd uchod:

  • Darparu gwybodaeth am lyfrau a deunydd perthnasol arall trwy gyhoeddi rhestrau, taflenni, catalogau a chylchgronau, a gwneud hynny yn y dulliau mwyaf priodol, ar bapur neu’n electronaidd.

  • Trefnu cynlluniau a gweithgarwch i hybu diddordeb mewn llyfrau ac mewn darllen ac i fod yn gefn i ymdrechion cyhoeddwyr i hybu teitlau unigol.

  • Hybu diddordeb mewn llyfrau plant trwy gyfrwng arddangosfeydd a thrwy raglen lawn o weithgarwch.

  • Darparu gwasanaeth golygu a dylunio prydlon ac o safon uchel i gyhoeddwyr Cymru.

  • Darparu gwasanaeth cyfanwerthu llyfrau a deunydd perthnasol ar ran y fasnach lyfrau yng Nghymru.

  • Trefnu gwasanaethau i lyfrgelloedd.

  • Darparu gwasanaethau a grantiau i awduron.

  • Dosbarthu’r Grantiau Cyhoeddi i hybu cyhoeddi llyfrau a chylchgronau i blant ac oedolion ynghyd â deunyddiau perthnasol eraill.

  • Sicrhau rheolaeth weinyddol ac ariannol effeithiol ac effeithlon.

 

 
{pic


  {(}
{)}