National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Cefndir
Amcanion
Ffeithiau
Pwyllgorau
Staff
Cyfeillion
Canolfan
Cyhoeddiadau
Cyfarfodydd
 
 
CANOLFAN Y LLYFR ABERYSTWYTH

Menter ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Chyngor Llyfrau Cymru yw Canolfan y Llyfr Aberystwyth. Fe’i lansiwyd ym mhencadlys y Cyngor Llyfrau ar 13 Mawrth 1997.

Bu’r tri sefydliad yn cydweithio’n agos ers blynyddoedd lawer ond teimlwyd bod angen creu partneriaeth a fyddai’n ffurfioli cydweithrediad a datblygiad gyda golwg ar hybu’r llyfr yng Nghymru.

Dyma ddyfyniadau gan gynrychiolwyr y tri sefydliad ar adeg sefydlu’r Ganolfan:


 

Canolfan y Llyfr Aberystwyth


'Bu’r syniad o ganolfan i’r llyfr yn gysylltiedig hyd yn hyn â’r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain a Llyfrgell y Gyngres yn Washington. Prif fwriad canolfan o’r fath yw hybu diddordeb yn y llyfr. Go brin bod un dref arall yn y byd lle cewch chi gymaint o lyfrau ac arbenigedd am lyfrau ag yma yn Aberystwyth. Ein dymuniad yw sefydlu partneriaeth rhwng tri sefydliad sydd yn unigryw yng Nghymru, tri y mae gan bob un ohonynt ddiddordeb arbennig mewn llyfrau. Ffrwyth ein cydweithrediad, gobeithio, fydd hyrwyddo diddordeb a gwybodaeth am y llyfr – ei hanes, ei statws heddiw, a’i ddyfodol.'

Dr Lionel Madden
Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (hyd 1998)

Canolfan Lansio Canolfan y Llyfr Aberystwyth ym 1997 (o’r chwith i’r dde): Dr Lionel Madden, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (hyd 1998); Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru; Yr Athro Derec Llwyd Morgan, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Aberystwyth.



––

‘Mae cyfle unigryw i ni yn Aberystwyth fanteisio ar gyfoeth yr arbenigedd sy’n bodoli o fewn y tri sefydliad cenedlaethol hyn.

Bu cydweithio agos rhyngom, ar lefel anffurfiol, oddi ar sefydl
u’r Cyngor Llyfrau ym 1961 ac y mae nifer o ddatblygiadau pwysicaf y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf yn seiliedig ar waith ymchwil a gyflawnwyd ar y cyd, ac ar yr arbenigedd yn y maes cyfrifiaduron a’r maes llyfrau sydd ar gael yma.

Y mae’r datblygiad cyffrous hwn yn estyniad naturiol o’r cydweithio hwnnw. Y mae hefyd yn ddatganiad o ffydd ym mhwysigrwydd y llyfr ac yn ymrwymiad ar ran y tri sefydliad i’w hyrwyddo hyd eithaf eu gallu.’

Gwerfyl Pierce Jones
Cyfarwyddwr, Cyngor Llyfrau Cymru



––

 

'... Mae’n dangos fel y gall ymchwil a dysgu fod yn berthnasol i anghenion Cymru ac fel y gall ymchwil a dysgu elwa ar yr adnoddau aruthrol sydd ar gael yn Aberystwyth. Mae gweld cyhoeddi llyfryddiaeth Llyfrau Plant 1900–1991 heddiw a chlywed am gyhoeddi cylchgrawn newydd – Y Llyfr yng Nghymru – yn dangos pa mor greadigol yw’r berthynas hon eisoes ...’

Yr Athro Derec Llwyd Morgan

Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru, Aberystwyth



 

‘Nid canolfan yn yr ystyr o adeilad sydd yma ond ymrwymiad i gydweithredu ym maes llyfrau. Mae llawer wedi bod yn darogan diwedd y llyfr – bydd technoleg newydd yn cymryd ei le yn ôl rhai, ond mae yna ddigon o fywyd yn y llyfr eto, a byddwn yn rhoi sylw i bob agwedd arno – pwy yw’r awduron, pwy sy’n cyhoeddi a pham, ble mae prynu a phwy sy’n darllen, pwy sy’n casglu, a beth yw’r argoelion i’r ganrif nesa, heb sôn am fwrw golwg ’nôl i agweddau ar yr hanes ... Mae hwn yn faes arbennig o gyfoethog.’

Yr Athro Hywel Roberts

Pennaeth Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Cymru, Aberystwyth (hyd 1999)



PWYLLGOR LLYWIO
Andrew M. W. Green
Gwilym Huws
Gwerfyl Pierce Jones
Rhidian Griffiths


Y LLYFR YNG NGHYMRU

Mae’r Ganolfan yn cyhoeddi cylchgrawn blynyddol, Y Llyfr yng Nghymru. Ymddangosodd pumed rhifyn y cylchgrawn hwn ym mis Hydref 2003. Diben y cylchgrawn yw cyhoeddi erthyglau yn Gymraeg a Saesneg ar bob agwedd ar y llyfr yng Nghymru – ei orffennol a’i ddyfodol, ei ddiwyg a’i ddefnydd, a’i gyfraniad i ddiwylliant a bywyd Cymru. Gellir archebu copi o’r cylchgrawn trwy eich siop lyfrau leol neu oddi ar wefan www.gwales.com.

Dylid anfon erthyglau a deunydd arall i’w hystyried ar gyfer y cylchgrawn at:

Dr Rhidian Griffiths
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY23 3BU
e-bost: wrg@llgc.org.uk

Llyfr



YMCHWIL I’R FASNACH LYFRAU YNG NGHYMRU

Un o brif gynlluniau’r Ganolfan ar hyn o bryd yw’r ymchwil i’r fasnach lyfrau yng Nghymru. Gwahoddwyd Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i ailymweld â’r maes a archwiliwyd ganddi yn ei harolwg o’r fasnach lyfrau ym 1986–87.

Am resymau ymarferol, penderfynwyd rhannu’r arolwg yn gyfres o dri adroddiad byrrach, ond cysylltiedig. Roedd yr adroddiad cyntaf (Medi 2000) yn ymwneud â’r berthynas rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus a’r fasnach lyfrau. Ym Medi 2002 cyhoeddwyd yr ail ran, sef adroddiad ar y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, ac mae adroddiad ar natur a chyflwr y siopau llyfrau yng Nghymru i ddilyn.


 

––
Adroddiad y Ganolfan

Ar adeg lansio adroddiad y Ganolfan ar y berthynas rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus a’r fasnach lyfrau yng Nghymru, Medi 2000 (o’r chwith i’r dde): Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Gwilym Huws, Pennaeth, Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru.

AROLWG O’R DIWYDIANT CYHOEDDI YNG NGHYMRU

I ddarllen yr Arolwg o’r Diwydiant Cyhoeddi, cliciwch isod

[1000k]

––


  {(}
{)}