National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Cefndir
Amcanion
Ffeithiau
Pwyllgorau
Staff
Cyfeillion
Canolfan
Cyhoeddiadau
Cyfarfodydd
 
 

CYFEILLION Y CYNGOR LLYFRAU

Beth yw’r Cyfeillion?

  • Sefydlwyd Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru ym 1995, gyda’r bwriad o greu grŵp o gefnogwyr i waith y Cyngor yn gyffredinol, ac yn arbennig felly eu hymdrech i hybu llyfrau Cymraeg a Chymreig.

  • Trwy gysylltu’n rheolaidd â’r Cyfeillion, mae’r Cyngor Llyfrau yn gallu cyflwyno iddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am y byd llyfrau yng Nghymru, a hynny am dâl aelodaeth o £15 y flwyddyn.

  • Erbyn hyn, mae’r Cyfeillion yn mynd o nerth i nerth, gan gynnal cyfarfodydd blynyddol yng nghwmni rhai o’n llenorion amlycaf. Eisoes, bu Jan Morris, Emyr Humphreys a’r diweddar R. S. Thomas yn trafod eu gwaith a’r dylanwadau a fu ar eu cynnyrch llenyddol.

  • Y mae gan y Cyfeillion eu cylchgrawn eu hunain yn ogystal, sef Y Cyfaill, dan olygyddiaeth Lyn Lewis Dafis o Aberystwyth. Mae’r cylchgrawn hwn yn llawn pytiau diddorol am y byd llyfrau yng Nghymru, ac am ddiddordebau llenyddol rhai o’r aelodau.

  • Cadeirydd cyntaf Cyfeillion y Cyngor Llyfrau oedd y diweddar Alun Creunant Davies, cyn-Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau a fu farw yn 2005.
Alun Creunant Davies
––

Yr Athro M. Wynn Thomas (Is-gadeirydd) yn cyflwyno rhodd i R. S. Thomas yn ystod Cyfarfod Blynyddol cyntaf y Cyfeillion, Ebrill 1997.

Yr Athro M. Wynn Thomas yn cyflwyno anrheg i R. S. Thomas ar achlysur Cyfarfod Blynyddol Cyntaf y Cyfeillion ym mis Ebrill, 1997.




PDF [1380k]
Y degfed rhifyn o'r Cyfaill, cylchlythyr dwyieithog y Cyfeillion, Gaeaf 2006.

 

 

 

Llywyddion Anrhydeddus
 
Mae tri o brif lenorion Cymru wedi derbyn yr anrhydedd o fod yn Llywyddion Anrhydeddus i Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru, sef Islwyn Ffowc Elis, Emyr Humphreys a Jan Morris.

Tristwch o’r mwyaf i’r Cyfeillion yw cofnodi marwolaeth Islwyn Ffowc Elis ym mis Ionawr 2004.

Mae cyfraniad y tri yn arbennig iawn i fyd llenyddiaeth Cymru gan mor amrywiol a gwahanol eu gyrfaoedd a’u cynnyrch. Fel nofelydd arloesol y meddylir am Islwyn Ffowc Elis yn bennaf, a gwyddom hefyd am ei gyfraniad pwysig fel beirniad llenyddol.  Daeth Emyr Humphreys i amlygrwydd fel nofelydd ifanc gan ddatblygu hefyd yn fardd a dramodydd teledu.  Fel awdur taith y derbyniodd Jan Morris sylw rhyngwladol, ond y mae bellach wedi cyhoeddi nifer o lyfrau’n ymwneud yn benodol â Chymru.
 
Y mae’r tri Llywydd Anrhydeddus wedi cofnodi eu diolch a’u gwerthfawrogiad o dderbyn yr anrhydedd:

Un o’r storïau mwyaf cyffrous yn hanes ein diwylliant yw datblygiad Cyngor Llyfrau Cymru.  Ac yn awr mae gan y Cyngor gorff niferus o Gyfeillion i’w gynnal a’i gefnogi.  Braint fawr i unrhyw un yw cael bod yn un o lywyddion y Cyfeillion hyn.’

Islwyn Ffowc Elis

‘Yn yr oes hon o ddatblygiadau technolegol a chysylltiadau byd-eang mae’r llyfr yn parhau yn gyfrwng holl bwysig.  Y mae’n dda gweld felly bod gennym y Cyngor Llyfrau i hybu llyfrau o Gymru.’

Emyr Humphreys

‘Mae bodolaeth y Cyngor Llyfrau nid yn unig yn bwysig o safbwynt cyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith yng Nghymru, ond y mae’n ddatganiad bod y genedl yn rhoi bri ar un o’r elfennau pwysicaf, y gair ysgrifenedig.’

Jan Morris

 

 

 

Swyddogion y Cyfeillion

Cadeirydd: Tegwyn Jones
Is-Gadeirydd: Brynley F. Roberts
Ysgrifennydd: Lyn Léwis Dafis

Trysorydd: Richard Morgan
Aelodau'r Pwyllgor Llywio:

Marian Delyth
Un lle gwag



Y Cyfeillion ar Waith

  • Caiff y Cyfeillion eu cynrychioli ar brif gorff rheoli’r Cyngor, gan gael cyfle i drosglwyddo barn a dyheadau’r aelodau.

  • Bydd unrhyw roddion neu gyfraniadau a dderbynnir gan y Cyfeillion yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gwaith y Cyngor Llyfrau.

Beth yw manteision ymuno â’r Cyfeillion?

Drwy ymuno â Chyfeillion y Cyngor Llyfrau, byddwch yn derbyn gwybodaeth reolaidd am y byd llyfrau yng Nghymru a hynny mewn pecynnau tymhorol sy’n cynnwys deunydd megis:

  • Copi o’r cylchlythyr dwyieithog Y Cyfaill ddwywaith y flwyddyn – cylchgrawn bywiog a gyhoeddir yn arbennig ar gyfer y Cyfeillion.
  • Tocyn mantais gwerth £2.50 ym mhob pecyn, i’w gyfnewid am lyfr o’ch dewis.

  • Copi am ddim o’r cyfnodolyn Y Llyfr yng Nghymru, sef cyhoeddiad blynyddol Canolfan y Llyfr Aberystwyth.

  • Gwahoddiad i Gyfarfod Blynyddol y Cyfeillion.

  • Copïau o gatalogau llyfrau a gyhoeddir gan y Cyngor Llyfrau, yn ogystal â chatalogau a baratoir gan amryw o gyhoeddwyr yn rhestru eu llyfrau diweddaraf.

  • Rhestr gyflawn o’r llyfrau fydd yn cael eu cynnig am hanner pris neu lai yn arwerthiant blynyddol y Cyngor Llyfrau.

 

––

Sut i ymaelodi

Gellir ymaelodi â’r Cyfeillion am dâl o £15 y flwyddyn, neu £125 am aelodaeth deng mlynedd. Gall aelodau am oes dalu trwy gyfamod.

Anfonwch am ragor o fanylion, a ffurflen aelodaeth, at:

Ysgrifennydd y Cyfeillion
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151 Ffacs: 01970 625385
Neu anfonwch e-bost at elwyn.jones@cllc.org.uk



  {(}
{)}