Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Cefndir
Amcanion
Ffeithiau
Pwyllgorau
Staff
Cyfeillion
Canolfan
Cyhoeddiadau
Cyfarfodydd
 
 
FFEITHIAU A FFIGURAU

Dyma rai ystadegau ynglŷn â gweithgarwch 2007/08.

  • GWERTHIANT

    Gwerthwyd 776,032 o eitemau yn 2007/08 trwy Ganolfan Ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau, gwerth £5.5 miliwn (gros). Roedd hwn yn gynnydd o 13.38% ar werthiant y flwyddyn flaenorol.

    Bu cynnydd cyson yn ffigurau gwerthiant y Ganolfan Ddosbarthu ers 1990 ac mae'r Ganolfan yn cyrraedd ei thargedau blynyddol. Cafwyd cynnydd o 25.35% dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig
    .

    Dosberthir y cynnyrch i dros 800 o leoedd ar ran 350 o gyhoeddwyr.

  • GWASANAETHAU GOLYGU

    Rhoddodd yr Adran Olygyddol wasanaeth i 172 o lawysgrifau yn ystod y flwyddyn gan 19 o gyhoeddwyr.

  • GWASANAETHAU DYLUNIO

    Rhoddodd yr Adran Ddylunio wasanaeth i 91 o deitlau gan 11 o gyhoeddwyr.

  • GWASANAETHAU I YSGOLION

    Clybiau Sbondonics a Sbri-di-ri
    Gwerthwyd 16,657 o lyfrau, gwerth £82,632, i 9,907 o brynwyr trwy Glybiau Sbondonics a Sbri-di-ri.

    Cynllun Ysgolion
    Ymwelodd pedwar Swyddog Ysgolion y Cyngor â 772 o ysgolion gan gasglu archebion am lyfrau a deunydd addysgol gwerth £450,628.
  • CYNLLUN YMESTYN

    Trwy gymorth y Cynllun Ymestyn, trefnodd llyfrwerthwyr 423 o achlysuron gwerthu ychwanegol gan werthu gwerth £168,174 o lyfrau.

  • DOSBARTHU GRANTIAU CYHOEDDI

    Dosbarthodd y Cyngor gyfanswm o £1,358,078 tuag at gyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg a deunydd arall, megis llyfrau llafar a CD-ROMau. Rhoddwyd grantiau i 233 o lyfrau ac 15 o gylchgronau. Gwariwyd cyfanswm o £231,475 ar daliadau i awduron a darlunwyr a £56,261 ar grantiau i lyfrwerthwyr.


    Dosbarthwyd £754,061 tuag at gyhoeddi llyfrau a chylchgronau Saesneg; cefnogwyd 79 o lyfrau, 3 chylchgrawn ac 1 atodiad llenyddol gyda'r Grant Llenyddiaeth. Yn ogystal cyhoeddwyd 13 llyfr a oedd wedi derbyn blaendal awdur, a dosbarthwyd 21 grant marchnata.
 


{pic}{testun}

 
{)}