Cynllun Cysgodi Tir na n-Og

Eisiau cyflwyno llyfrau newydd i ddarllenwyr ifanc?

Eisiau llyfrau am ddim a phecyn adnoddau?

Eisiau trafod y llyfrau a straeon yna?

Cynllun cysgodi Tir na n-Og yw’r peth i chi!

Bwriad y cynllun cysgodi yw codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc am deitlau’r rhestr fer wrth gynnig cyfle i fwynhau darllen a thrafod y llyfrau â’u cyfoedion.

Unwaith eto eleni, rydym yn falch o fedru cyflwyno gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig sy’n cael ei ddewis gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun cysgodi.

Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Mae’r pecyn cysgodi’n cynnwys crynodeb o’r llyfrau, sylwadau gan y beirniaid swyddogol, gwybodaeth am yr awduron, gemau a chardiau pleidleisio.

Ar ôl cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun cysgodi, byddwn yn anfon un copi o lyfrau’r rhestr fer rydych yn ei chysgodi yn y post a chopi electronig o’r pecyn cysgodi atoch.

Bydd angen i’r ysgolion bleidleisio am eu hoff lyfr Saesneg erbyn 13 Mai 2024 a hoff lyfrau Cymraeg erbyn 22 Mai 2024.

Bydd yr enillwyr Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn ystod Eisteddfod yr Urdd ar 29 Mai a’r enillydd Saesneg ar 17 Mai 2024.

DIWEDDARIAD: Mae 30 pecyn o lyfrau bellach wedi cael eu hawlio ar gyfer y Cynllun Cysgodi 2024. Diolch am eich diddordeb ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi enillwyr y gwobrau yn ystod mis Mai.

Pecynnau cysgodi
Tir na n-Og 2024
ar gael i’w lawrlwytho yma

Pecynnau cysgodi
Tir na n-Og 2023
ar gael i’w lawrlwytho yma

Pecynnau cysgodi
Tir na n-Og 2022
ar gael i’w lawrlwytho yma