Gwobrau Tir na n-Og

Logo Gwobrau Tir na n-Og

Gwobrau Tir na n-Og i lenyddiaeth plant a phobl ifanc yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u math yng Nghymru. Fe’u sefydlwyd ym 1976 i anrhydeddu a dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunyddiau darllen gorau i blant. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru. 

Dros y blynyddoedd, mae’r gwobrau wedi’u hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones, Gareth F Williams, Catherine Fisher a Jackie Morris. 

Dyfernir tair gwobr o £1,000 yn flynyddol i’r enillydd cyffredinol ym mhob un o’r tri chategori. Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol) a Chyngor Llyfrau Cymru.

Categorïau

  • Llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol gynradd (4–11)
  • Llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol uwchradd (11–18)
  • Llyfrau Saesneg ar gyfer plant oed cynradd ac uwchradd (4–18) gyda chefndir Cymreig dilys
Beirniaid Tir na n-Og 2023

RHESTRAU BYRION 2024